Lleoliad:
Fideo gynadledda drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Gwener, 3 Gorffennaf 2020
Amser:
09.00 -
11.28
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6393
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Ann Jones AS (Cadeirydd) Mick Antoniw AS Jayne Bryant AS Janet Finch-Saunders AS Russell George AS John Griffiths AS Llyr Gruffydd AS Mike Hedges AS Dai Lloyd AS Lynne Neagle AS Nick Ramsay AS David Rees AS Caroline Jones AS Helen Mary Jones AS |
Tystion: |
Simon Brindle, Llywodraeth Cymru Tracey Burke, Llywodraeth Cymru Dr Andrew Goodall, Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru Jeremy Miles AS, Y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Andrew Slade, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Ross Davies (Dirprwy Glerc) Matthew Richards (Cynghorydd Cyfreithiol) Lucy Morgan (Ysgrifenyddiaeth) |
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod
Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
Ni chafwyd ymddiheuriadau na datganiadau o fuddiant.
2 Ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a'r adferiad
Holodd y Pwyllgor y Prif Weinidog ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19 a’r cynlluniau ar gyfer sicrhau adferiad yn y dyfodol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:
Derbyniwyd y cynnig.
4 Trafod y dystiolaeth o'r sesiwn flaenorol
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn y sesiynau blaenorol a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn gofyn am ragor o wybodaeth am nifer o faterion a oedd yn weddill.
5 Trefniadau cyfarfodydd yn y dyfodol
Cytunodd y Pwyllgor i gynnal nifer cynyddol o gyfarfodydd yn nhymor yr hydref er mwyn hwyluso’r broses o wneud gwaith craffu parhaus ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig Covid-19. Cytunodd y Pwyllgor i drefnu dau gyfarfod gyda'r Prif Weinidog ar gyfer y Pwyllgor llawn, yn ogystal â dau gyfarfod gyda'r Cwnsler Cyffredinol ar gyfer is-grŵp o aelodau’r Pwyllgor. Bydd cyfarfodydd yr is-grŵp yn ymdrin â chyfrifoldebau’r Cwnsler Cyffredinol o ran goruchwylio’r gwaith adfer mewn perthynas â Covid-19.